Rhomboid

Rhomboid
Mathparalelogram Edit this on Wikidata

Mewn geometreg dau-ddimensiwn, mae rhomboid yn baralelogram lle mae'r ochrau cyfagos yn anghyfartal o ran hyd, a lle na cheir ongl sgwâr. Bathwyd y term gan Euclid yn ei waith Elfennau; casglaid 1, Diffiniad 22.

Mae paralelogram gydag ochrau o'r un hyd (h.y. yn hafalochrog) yn rhombws, ond nid yn rhomboid. Os ceir onglau sgwâr yn y corneli, yna mae'n betryal, ond nid yn rhomboid.

Mae'r term 'rhomboid', bellach, yn cael ei ddefnyddio yn amlach na pheidio ar gyfer rhombohedron neu'r paraleleiped cyffredin, ffigwr solid gyda chwe wyneb lle mae pob wyneb yn baralelogram a lle mae pob pâr o wynebau cyferbyn yn gorwedd mewn planau paralel. Mae'r ffurf solid (3D) hefyd yn cael ei alw'n "brism rhombig", ac fe'i defnyddir yn aml mewn gwyddoniaeth i gyfleu ystyr dau a thri dimensiwn.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search